28/02/2013

£715 wedi ei godi! DIOLCH YN FAWR IAWN!


Mae Ysgol y Preseli yn falch i gyhoeddi bod ei hymgyrch "Bag 2 School" ddiweddar wedi codi dros £715 i’r ysgol!



Gweithiodd Pwyllgor Elusennol Bl. 12 yr ysgol  yn ddiwyd i helpu dosbarthu bagiau i ddisgyblion, i rieni ac i aelodau’r gymuned leol er mwyn iddynt gyfrannu eu tecstilau diangen i'r ymgyrch. Mae hyn yn ei dro wedi codi arian i’r ysgol, ac helpu ail-ddefnyddio eitemau  a dargyfeirio tecstilau diangen i ffwrdd o safleoedd tirlenwi: neges bwysig i'r disgyblion am fanteision ailgylchu ac ailddefnyddio!



Bydd yr arian a godwyd yn mynd tuag at "Prosiect eDdysg", sef prosiect cyffrous sy'n anelu i ddatblygu defnydd yr ysgol o dechnolegau digidol er mwyn helpu disgyblion i ddysgu.

Dymuna Mrs Serena Davies a’r Pwyllgor Elusennol (Martha Lloyd-Morgan, Tesni Galvin, Thomas Underwood, Rhys Jenkins, Molly Jones, Rhys Davies, Ellis Morgan & Shane Davies) ddiolch i bawb a gyfrannodd at yr ymgyrch - diolch yn fawr iawn.


Over £715 raised! Thank you!


Ysgol y Preseli is pleased to announce that a local “Bag 2 School” fundraising initiative has raised over £715 for the school!



One of the school’s Year 12 Committees (Y Pwyllgor Elusennol) helped distribute bags so that pupils, parents and members of the local committee were able to contribute unwanted textiles to the campaign. This not only helped to raise funds for the school, but also helped re-use unwanted items and divert unwanted textiles away from landfill: an important message to its pupils about the benefits of recycling and reuse.



The funds raised will go towards “Prosiect eDdysg”, an exciting project which aims to develop the school’s use of digital technologies to help pupils learn.

Mrs Serena Davies and the Year 12 Committee (Martha Lloyd-Morgan, Tesni Galvin, Thomas Underwood, Rhys Jenkins, Molly Jones, Rhys Davies, Ellis Morgan & Shane Davies) would like to thank everyone that contributed to the campaign – diolch yn fawr iawn.


04/02/2013

YSGOL Y PRESELI YN LAWNSIO FIDEO "BAG 2 SCHOOL"!


Heddiw lawnsiwyd fideo "Bag 2 School" Ysgol y Preseli!

Bwriad y fideo yw i ledu'r neges am yr ymgyrch, ac i gasglu cymaint o fagiau â sy'n bosib yr wythnos ar ôl hanner tymor!

Dyma gopi Cymraeg o'r fideo - diolch i'r Pwyllgor Elusennol am eu creadigrwydd!



Cofiwch y byddwn yn ddiolchgar am UNRHYW gyfraniad (mewn UNRHYW fath o fag)!

Here's an English version of the video:



Remember that we would be grateful for ANY contribution, which can be passed on to us in ANY type of bag!

01/02/2013

YMGYRCH I GODI ARIAN: "BAG 2 SCHOOL"



Rydym yn falch i gyhoeddi bod yr ysgol wedi trefnu casgliad tecstilau gyda “Bag2School” er mwyn codi arian ar gyfer yr ysgol!


Sefydlwyd “Bag2School” yn 2001, ac erbyn hyn maent yn adnybyddus fel cwmni ailgylchwyr tecstiliau sy’n gweithio gydag ysgolion i godi arian: maent bellach wedi talu dros £15 miliwn i ysgolion!

PAM gwneud ymgyrch "Bag 2 School"?
  1. I gasglu arian i'r ysgol
  2. I ail-ddefnyddio eitemau nad yw pobl eu hangen!
  3. I leihau'r gwastraff mewn safleoedd tirlenwi!
  4. I wneud mwy o le yn eich cartrefi!
PWY sydd yn medru cyfrannu bagiau?

PAWB! Mae hyn yn cynnwys: 
* Disgyblion * Rhieni * Perthnasau * Cymdogion * Aelodau o'r gymuned * Ffrindiau.... ...unrhyw un!

BETH sydd yn cael ei dderbyn?

    • Dillad oedolion a dillad plant
    • Esgidiau (clymwch at ei gilydd os gwelwch yn dda)
    • Hetiau
    • Gwregysau
    • Bagiau
    • Teganau meddal
    • Llenni
    • Dillad gwely (dim ‘duvets’ na chlustogau). 

    SUT?

    1. Rhowch eich eitemau mewn bag (bag glas i ddisgyblion bl. 7-9; unrhyw fag i bawb arall). Cofiwch gewch lenwi mwy nag un bag!
    2. Dychwelwch eich bagiau i'r ysgol yn syth ar ôl hanner tymor 

    WYTHNOS DYCHWELYD BAGIAU: 18-22/2/13


    Byddwn yn derbyn £500 y dunnell neu £0.50/kg  a fydd yn hwb mawr i'n cais i godi arian. Yn ogystal, bydd yn codi ymwybyddiaeth o fanteision ailgylchu ac ailddefnyddio ymhlith y plant. 

    Diolch yn fawr i chi am bob cyfraniad! Cofiwch gysylltu â'r ysgol ar 01239 831406 (neu drwy e-bost: sdavies@ysgolypreseli.com) os oes gennych unrhyw gwestiynau!