Rydym yn falch i gyhoeddi bod yr ysgol wedi trefnu casgliad tecstilau gyda “Bag2School”
er mwyn codi arian ar gyfer yr ysgol!
Sefydlwyd “Bag2School”
yn 2001, ac erbyn hyn maent yn adnybyddus fel cwmni ailgylchwyr tecstiliau sy’n
gweithio gydag ysgolion i godi arian: maent bellach wedi talu dros £15
miliwn i ysgolion!
PAM gwneud ymgyrch "Bag 2 School"?
- I gasglu arian i'r ysgol
- I ail-ddefnyddio eitemau nad yw pobl eu hangen!
- I leihau'r gwastraff mewn safleoedd tirlenwi!
- I wneud mwy o le yn eich cartrefi!
PWY sydd yn medru cyfrannu bagiau?
PAWB! Mae hyn yn cynnwys:
* Disgyblion * Rhieni * Perthnasau * Cymdogion * Aelodau o'r gymuned * Ffrindiau.... ...unrhyw un!
BETH sydd yn cael ei dderbyn?
- Dillad oedolion a dillad plant
- Esgidiau (clymwch at ei gilydd os gwelwch yn dda)
- Hetiau
- Gwregysau
- Bagiau
- Teganau meddal
- Llenni
- Dillad gwely (dim ‘duvets’ na chlustogau).
SUT?
1. Rhowch eich eitemau mewn bag (bag glas i ddisgyblion bl. 7-9; unrhyw fag i bawb arall). Cofiwch gewch lenwi mwy nag un bag!
2. Dychwelwch eich bagiau i'r ysgol yn syth ar ôl hanner tymor
WYTHNOS DYCHWELYD BAGIAU: 18-22/2/13
Byddwn yn derbyn £500 y dunnell neu £0.50/kg a fydd yn hwb mawr i'n cais i godi arian. Yn ogystal, bydd yn codi ymwybyddiaeth o fanteision ailgylchu ac ailddefnyddio ymhlith y plant.
Diolch yn fawr i chi am bob cyfraniad! Cofiwch gysylltu â'r ysgol ar 01239 831406 (neu drwy e-bost: sdavies@ysgolypreseli.com) os oes gennych unrhyw gwestiynau!
Diolch yn fawr i chi am bob cyfraniad! Cofiwch gysylltu â'r ysgol ar 01239 831406 (neu drwy e-bost: sdavies@ysgolypreseli.com) os oes gennych unrhyw gwestiynau!

No comments:
Post a Comment