Mae Ysgol y Preseli yn falch i gyhoeddi bod ei
hymgyrch "Bag 2 School" ddiweddar wedi codi dros £715 i’r ysgol!
Gweithiodd
Pwyllgor Elusennol Bl. 12 yr ysgol yn
ddiwyd i helpu dosbarthu bagiau i ddisgyblion, i rieni ac i aelodau’r gymuned leol
er mwyn iddynt gyfrannu eu tecstilau diangen i'r ymgyrch. Mae hyn yn ei dro
wedi codi arian i’r ysgol, ac helpu ail-ddefnyddio eitemau a dargyfeirio tecstilau diangen i ffwrdd o safleoedd
tirlenwi: neges bwysig i'r disgyblion am fanteision ailgylchu ac ailddefnyddio!
Bydd yr arian a
godwyd yn mynd tuag at "Prosiect eDdysg", sef prosiect cyffrous sy'n
anelu i ddatblygu defnydd yr ysgol o dechnolegau digidol er mwyn helpu
disgyblion i ddysgu.
Dymuna Mrs Serena
Davies a’r Pwyllgor Elusennol (Martha Lloyd-Morgan, Tesni Galvin, Thomas
Underwood, Rhys Jenkins, Molly Jones, Rhys Davies, Ellis Morgan & Shane
Davies) ddiolch i bawb a gyfrannodd at yr ymgyrch - diolch yn fawr iawn.
No comments:
Post a Comment